Dyma’r unig dudalen sydd ar gael yn Gymraeg, er mwyn i’r rheini sy’n siarad Cymraeg ddarllen am waith y Cyngor Addysg Grefyddol yn eu mamiaith. Mae dolenni ar waelod y dudalen i rai o wefannau Cymru. Y Cyngor Addysg Grefyddol Sefydlwyd Cyngor Addysg Grefyddol Cymru a Lloegr ym 1973 i gynrychioli buddiannau amrywiaeth eang o gymdeithasu proffesiynol a chymunedau ffydd wrth ddyfnhau a chryfhau’r ddarpariaeth ar gyfer Addysg Grefyddol. Mae’n cynnig fforwm aml-ffydd lle mae cyrff cenedlaethol sydd â diddordeb mewn hybu a hyrwyddo Addysg Grefyddol mewn ysgolion a cholegau yn gallu trafod materion sydd o bwys iddynt i gyd. Mae’r Cyngor Addysg Grefyddol yn:
- Bodoli i archwilio ac i egluro cwmpas Addysg Grefyddol mewn ysgolion a’i pherthynas â meysydd eraill y cwricwlwm. Ei nod yw ei gwneud yn bosibl i ddod i benderfyniadau ac i lunio polisïau ar y cyd ar lefel genedlaethol ac i greu ffordd i Gyrff sy’n Aelodau o’r Cyngor gysylltu â’i gilydd, gan roi cyfle iddynt ranu syniadau a dysgu oddi wrth ei gilydd.
- Cyfarfod fel Cyngor llawn ddwywaith y flwyddyn, gyda siaradwyr amlwg gan gael adborth gan aelodau. Cynhelir y cyfarfodydd mewn lleoliadau a drefnir gan gyrff y Cyngor, gan gynnwys y Gymdeithas Fwdhaidd, y Ganolfan Ddiwylliannol Islamaidd, Neuadd Conwy, y Gymdeithas Genedlaethol a Thy’r Eglwys Fethodistaidd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r aelodau wedi clywed sgyrsiau am bynciau’n amrywio o Addysg Dinasyddiaeth i AG a’r Celfyddydau. Cafwyd anerchiadau gan y Prif Rabi Dr Jonathan Sacks; Cadeirydd Grwp Cynghori ar Ddinasyddiaeth, Syr Bernard Crick; Cadeirydd QCA, Syr William Stubbs a Phrif Weithredwr yr Asiantaeth Hyfforddi Athrawon, Anthea Millett.
- Llais sy’n cynrychioli Addysg Grefyddol yn y cyfryngau ac mewn cyfarfodydd â chyrff y llywodraeth. Mae cynrychiolwyr y cyrff sy’n aelodau o’r Cyngor wedi cael cyfarfodydd ac ymgynghoriadau â’r DfES a QCA.
- Yn cyhoeddi adroddiadau a llyfrynnau cynghori’n achlysurol. Er enghraifft, cyhoeddwyd <Collective Worship Reviewed> sef adroddiad am ymgynghoriadau eang ar addoli ar y cyd mewn ysgolion oedd a baratowyd gan y Cyngor Addysg Grefyddol NASACRE a’r Rhwydwaith Aml-ffydd. Mae cyngor ynghylch dathlu’r mileniwm mewn ysgolion mewn cyd-destun aml-ffydd yn enghraifft arall.
Hefyd mae gan y Cyngor - Bwyllgor Gweithredol o wirfoddolwyr sydd wedi’u hethol neu’u cyfethol o blith yr aelodau. Gan amlaf, mae’n cynnwys cadeirydd, ysgrifennydd, trysorydd a chynrychiolwyr o groestoriad o Gyrff sy’n Aelodau o’r Cyngor.
Daw ei aelodau o gyrff cenedlaethol o wahanol ffydd a chred, yn ogystal â chyrff sy’n cynrychioli gweithwyr proffesiynol ym maes Addysg Grefyddol. Mae croeso i bob corff sy’n cefnogi amcanion y Cyngor Addysg Grefyddol wneud cais i ymaelodi.
|